This event will be held at Pontio Arts Centre, which is a public arts venue in Bangor, which is also part of Bangor University. The event will be a celebration of local people of diverse backgrounds. It will comprise a mix of talks and presentations, exhibitions, films, art and performances. The principal part of the event will be performances by artists such as Indian dancers, Caribbean drummers, African singers, all of whom live in and around Bangor. Speakers will be able to talk about their lived experiences or share details of their creative work. Surrounding the event will be artworks, photographs and information put together by local people to share their stories.
Cynhelir y digwyddiad hwn yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio, sef lleoliad celfyddydau cyhoeddus ym Mangor, sydd hefyd yn rhan o Brifysgol Bangor. Bydd y digwyddiad yn ddathliad o bobl leol o gefndiroedd amrywiol. Bydd yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau a chyflwyniadau, arddangosfeydd, ffilmiau, celf a pherfformiadau. Prif ran y digwyddiad fydd perfformiadau gan artistiaid gan gynnwys dawnswyr Indiaidd, drymwyr Caribïaidd, cantorion Affricanaidd, sydd oll yn byw ym Mangor a'r cyffiniau. Bydd y siaradwyr yn gallu siarad am eu profiadau neu rannu manylion am eu gwaith creadigol. O amgylch y digwyddiad bydd gweithiau celf, ffotograffau a gwybodaeth a gasglwyd gan bobl leol i rannu eu straeon.
This event is about recognising the diversity of people who live in and around Bangor, it will enable people of all backgrounds to better understand the community in which they live, and it will encourage local creative people to share their talents with attendees.
Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chydnabod amrywiaeth y bobl sy’n byw ym Mangor a’r cyffiniau, bydd yn galluogi pobl o bob cefndir i ddeall yn well y gymuned y maent yn byw ynddi, a bydd yn annog pobl leol greadigol i rannu eu doniau gyda’r mynychwyr.
The main leader will be Dr Marian Gwyn, who will be acting in her capacity as head of heritage for Race Council Cymru, the principal partner in this event. Speakers and performers will include: Jean-Samuel Mfikela, a Cameroonian artist; Shweta Jadhav Patil, a traditional Indian dancer; and Audrey West, a Jamaican poet. Benefits will include having a better understanding of the communities that live in and around Bangor.
Prif arweinydd y digwyddiad fydd Dr Marian Gwyn, a fydd yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel pennaeth treftadaeth Race Council Cymru, sef prif bartner yn y digwyddiad hwn. Bydd y siaradwyr a pherfformwyr yn cynnwys: Jean-Samuel Mfikela, artist o Camerŵn; Shweta Jadhav Patil, dawnswraig Indiaidd draddodiadol; ac Audrey West, bardd o Jamaica. Bydd y buddion yn cynnwys cael gwell dealltwriaeth o'r cymunedau sy'n byw ym Mangor a'r cyffiniau.
This event will be a free event that will be open to all.
Bydd y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd yn agored i bawb.
Nid yw'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at unrhyw grŵp penodol gan ein bod am iddo fod mor gynhwysol â phosibl.
This event is not aimed at any particular group as we want it to be as inclusive as possible.